Croeso i wefan Eifion Lewis.
Rwyf yn gweithio yn Abertawe ers 2005 ac nawr yn Gorseinon a Caerfyrddin hefyd. Mai Osteopathi yn driniaeth cyfannol am y corff, a mae peth gwybodaeth ar y wefan hon. Hefyd gallwch siarad gyda fi a gofyn y cwestiynnau sydd ar eich meddwl.
Gall helpu gyda phoen, anesmwythyd a/neu ddiffyg symudiad unrhyw le yn y corff, yn enwedig yn:
- y cefn
- y gwddf
- y pelfis
- yr ysgwyddau
Ar ddiwedd yr19fed ganrif, yr oedd meddyg yn America, Andrew Taylor Still a welodd llawer o ddoddefaint yn y wlad o ganlyniad i'r Rhyfel Cartref. Wedi marw dau o'i blant, penderfynnodd Dr Still bod yn rhaid cael gwell meddygaeth na'r un ar y pryd.
Astudiodd y corff dynol (anatomeg, sef gwedd neu ffurf y corff) ac astudiodd ffisioleg, ( sef gwaith y corff) a gwelodd bod cysylltiad rhwng y ddau. Gwelodd bod gwedd y corff yn effeithio gwaith y corff a'r gwaith yn effeiffio'r wedd.
Y berthynas hon rhwng gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yw un o elfannau pwysicaf osteopathi.
Y Dr JM Littejohn a gyflwynodd osteopathi i Brydain ar ddiwedd y 20fed ganrif.
Wedi gweld y berthynas, bu Dr Still yn creu ddulliau o weithio ar y corff fel bo gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yn helpu ei gilydd.
Sylweddolodd bod perthynas rydd rhwng unedau o'r corff, yn arbennig gydag asgwrn y cefn, yn bwysig fel y gallai y nerfau rhwng y pen a'r corff, wneud eu gwaith heb rwystr.
Mae Osteopathi yn cynnig llawer techneg yn y maes hwn.
Byddaf fi yn defnyddio:
Trolio
Troi uniad tyn yn ofalus, gyda rhyddm, nes iddo symud yn rhydd ac yn rhwydd.
Gwthiad Osteopathig
Gwthiad bur a pendant er mwyn rhyddhau y stiffrwydd.
Gweithio ar y cyhiriau
Defnyddio tylino neu ymestyn i rhyddhau cyhiriau tyn. Mae technig arbennig fel TEC ( Techneg Egni'r Cyhyr) yn galli fod yn effeithiol iawn.
Tensiwn Cydbwysedd y Giau (TCG)
Mae TCG yn ffordd dyner o weithio ar y giau er mwyn adfer cydbwysedd priodol.
15 Brynmead Close
Tycoch
Sketty
Abertawe
SA2 9EY
Hwn yw fy cyfeiriad am fusnes hefyd.
D'wyn gweithio yn Gorseinon nawr yn Wholly Well, yn 12a Alexandra Road (dros ben banc Barclay's ac nesag at Sainsbury's).
D'wy wedi symud nawr o siop yr Aardvark , i'r clinic newydd yn 56 Little Water Street, rhwng maesydd parcio St Peter's a John Steet (ty nol i Marks and Pencers). Felly mai parcio yn rhwydd.
Mae'r lliw glas yn rhwydd i weld, hyd yn oed o Marks and Spencers.
Dyma map:
Bydd y sesiwn cyntaf yn cymryd tuag tri-chwarter awr.
Bydd apwyntiadau dilynol yn canoli ar asesiad a thriniaeth; cymer hwn tua 30 munud.
Mae'r ffi yn £35 y sesiwn.
Apwyntiad ar y ffôn: 01792 203881 neu 01267 223233
Apwyntiad Ebost : eifion.lewis@osteotaff.co.uk
Diolch am alw